Arbed Dyfodol: Y Grŵp Trawsbleidiol ar Rwystro Plant rhag cael eu Cam-drin yn Rhywiol
Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 27 Mehefin 2023
Lleoliad: Rhithwir
Siaradwyr
Jayne Bryant AS – Cadeirydd
Emma Barton – Uned Atal Trais Cymru
Anna Glinski – Canolfan Arbenigedd ar Gam-drin Plant yn Rhywiol
Elinor Puzey – NSPCC
Yn bresennol
Berni Durham-Jones – Stepping Stones
Nici Evans – Canolfan Cam-drin Plant yn Rhywiol
Sarah Walton-Jones – Stop it Now!
Catherine Lewis – De Cymru
Sally Howells – Cyfannol
Helen Khezrzadeh – Cymdeithas y Plant
Melissa Wood – Barnardo’s
Clare Sharp – Arolygiaeth Gofal Cymru
Catrin Simpson – Canolfannau Cyfeirio Ymosodiadau Rhywiol (SARC)
Sarah Keefe – Tarian
Naomi Evans – Heddlu De Cymru
Heather Heaney – Sir Fynwy
Damian Rees – Abertawe
Janice Dent – Casnewydd
Faith McCready – SchoolBeat.cymru
Jan Pickles
Jo Williams – SARC Cymru
Corrina Williams – Cwmni Addysg Rhyw
Katryn Bennett – Llwybrau Newydd
Kizzie Garner-Hughes – Ceredigion
Michelle Jones – Blaenau Gwent
Anna Williams – Canolfan Gymorth Trais a Cham-drin Rhywiol
Kirsty Hudson – Prifysgol Caerdydd
David Hopkins – Cadeirydd Stop it Now!
Buffy Williams AS
Siân Gwenllian AS
Cofnodion
Dechreuwyd y cyfarfod drwy gynnal y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol. Etholwyd Jayne Bryant AS yn gadeirydd am flwyddyn arall. Cafodd ei henwebu gan Buffy Williams AS a’i heilio gan Siân Gwenllian AS. Penodwyd NSPCC Cymru, Stop It Now!, Survivors Trust, RASAC a Stepping Stones yn ysgrifenyddiaeth ar y cyd.
Aeth Jayne ymlaen i agor y cyfarfod, gan esbonio y byddai’n canolbwyntio ar gasglu data ynghylch cam-drin plant yn rhywiol.
Pwyntiau allweddol a nodwyd gan y siaradwyr
Emma Barton – Uned Atal Trais
· Mae'r porth yn cynnwys data sydd ar gael yn gyhoeddus ond sydd wedi’u storio mewn un lle;
· Mae'n caniatáu i grwpiau sydd mewn perygl a 'mannau problemus' o ran trais gael eu nodi;
· Mae’n llunio adroddiadau monitro chwarterol ar yr uchafbwyntiau a’r isafbwyntiau yn y data;
· Mae cynlluniau ar y gweill i gynnwys data o Ganolfannau Atgyfeirio Ymosodiadau Rhywiol ac o fyd addysg, a data am niwed ar-lein.
Anna Glinski – Canolfan Arbenigedd ar Gam-drin Plant yn Rhywiol
· Nid yw cam-drin plant yn rhywiol yn llai cyffredin na mathau eraill o gam-drin plant, ond mae’r data yn adrodd stori wahanol;
· Bydd cam-drin plant yn rhywiol yn parhau’n gudd os nad oes gennym setiau data perthnasol;
· Mae setiau data cyfannol yn ein galluogi i feithrin dealltwriaeth well o'r cyd-destunau y mae cam-drin plant yn rhywiol yn digwydd ynddynt, a all helpu gydag ymyrraeth a chamau ataliol;
· Bydd set ddata gynhwysfawr hefyd yn helpu i lywio’r gwaith o gomisiynu gwasanaethau
Argymhellion
Daeth dwy thema i’r amlwg yn ystod y trafodaethau a gafwyd mewn grwpiau llai, sef pwysigrwydd cysondeb ac adnoddau. Mae’r grŵp trawsbleidiol felly’n argymell bod Llywodraeth Cymru yn cymryd y camau a ganlyn:
· llunio paramedrau ar gyfer casglu data fel y gellir eu casglu mewn ffordd gyson ac unffurf ledled Cymru; a
· bod adnoddau ar gael i ddarparwyr gwasanaethau i’w helpu i gasglu gwybodaeth mewn ffordd ystyrlon.
Diolchodd Jayne Bryant AS i bawb am fod yn bresennol a chadarnhaodd y bydd papur briffio yn cael ei anfon at Lywodraeth Cymru i nodi’r argymhellion a drafodwyd, cyn dod â'r cyfarfod i ben.